Archwilio Gilfach

Gilfach Nature Reserve

Gilfach Nature Reserve by Daniel Oates

Ein Prosiectau

Archwilio Gilfach

Ar ôl fferm fynydd sy'n gweithio, sydd bellach yn warchodfa natur ysblennydd yng nghanol Canolbarth Cymru, mae Gilfach yn cefnogi llawer o gynefinoedd cyfoethog ac amrywiol, ac mae ganddi dreftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt sylweddol.

Heritage Lottery Fund Logo

Heritage Lottery Fund Logo

Cynhaliwyd Prosiect Archwilio Gilfach rhwng gorffennaf 2016 - Hydref 2018.  Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Am gyflwyniad gwych i'r lleoliad diddorol hwn, gwyliwch y fideo isod, yn cynnwys y naturiaethwr enwog Iolo Williams.

Lle Arbennig

Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i llawer o planhigion ac anifeiliaid a dyna sy'n gwneud y Gilfach yn lle mor arbennig.  MAe'n lle da i weld gwybedogion brith, bronwennod y dŵr, ac eogiaid yn neidio ac mae'n un o'r llefydd gorau yng Nghymru i weld cennau, gyda dros chwarter holl gennau Cymru yn tyfu yma.

O Fferm Fynydd i Warchodfa Natur

Am ganrifoedd, bu'r Gilfach yn fferm fynydd weithiol.  Erbyn hyn, mae'n warchodfa natur ysblenydd, lle mae anifeiliaid yn dal i bori er mwyn gwarchod y cynefinoedd bywyd gwyllt.  A hithau'n swatio yng Nghwm Marteg, mae'r fferm yn glytwaith o dirweddau lle ceir cyfoeth o gynefinoedd - o'r afon a glaswelltir corsiog i ddolydd, coetiroedd a friddoedd y llethrau creigiog.  

Llwyddiant Mawr

Mae prosiect Archwilio Gilfach wedi llwyddo i wneud Gilfach yn fwy hygyrch nag erioed, wedi agor y safle i grwpiau a defnyddwyr newydd, ac wedi tynnu mwy o sylw at y mwsoglau, cennau ac infertebratau hanfodol bwysig sy'n byw yma.

Darllenwch fwy am y prosiect drwy'r ddolen isod!

Cymryd Rhan!

Mae digon o ffyrdd i gefnogi'r prosiect:

  • Cymerwch ran yn ein digwyddiadau a'n gweithgareddau!
  • Cofrestrwch i fod yn Wirfoddolwr!
  • Rhoi i'r Ymddiriedolaeth!
  • .. A llawer mwy!

 

Cefnogwch Ni!      Gweld Beth sy'n Digwydd!