Gwirfoddoli

Pop Up Display RWT
Chwarae Rhan

Gwirfoddoli dros Fywyd Gwyllt Sir Faesyfed

Volunteer Roles

We have numerous different types of roles to suit all interests. Whether you want to do practical work on our many reserves, engage with visitors about our rare wildlife or support us in the office we have a role for you. We appreciate all the support our volunteers give because we know our work, enhancing wildlife in Radnorshire,  would not be possible without them! 

Trustee Roles

There is no time to lose if we are to bring nature back from the brink. We need new trustees of all backgrounds, ages and stages with the determination and commitment to help us drive forward nature’s recovery.  Interested? Contact us at info@rwtwales.org

Membership & Admin Assistant Volunteer

We're looking for trustworthy & reliable volunteer, with a positive attitude and an interest in helping wildlife. Membership is the backbone of Radnorshire Wildlife Trust, with over 1,200 members we need someone to support our staff with membership duties including posting and preparing newsletter, and other admin tasks.

Full description found here:

Warwick House roles, Llandrindod Wells

To get in touch about our volunteering opportunities contact us on info@rwtwales.org

Oes gennych chi gwestiwn?

Beth am gymryd cip ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin isod...efallai y byddwch chi’n gweld ateb i’ch cwestiwn!

Oes yn rhaid i mi fod yn aelod i wirfoddoli?

Ddim o gwbl!  Mae aelodaeth yn hanfodol bwysig i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed ac mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn dewis ein cefnogi’n ariannol fel aelod ond does dim gorfodaeth i ymuno.

Fel gwirfoddolwr, fe fyddwch chi’n rhoi o’ch amser i ni ac mae hwn yn adnodd gwerthfawr dros ben.  Heb ein cannoedd o wirfoddolwyr ymroddgar, fydden ni ddim yn gallu cynnal gwaith ar y lefelau rhyfeddol rydyn ni’n eu cyflawni bob blwyddyn.

Faint o amser ydw i’n gorfod ei roi?

Mae hi i fyny i chi! Rydyn ni’n eithaf hyblyg; mae’n dibynnu wir ar ba fath o wirfoddoli rydych chi am ei wneud.  Mae gwaith gwneud arolwg, helpu gyda digwyddiadau a gwaith gweinyddol mewn swyddfa’n eithaf ad hoc ond fe allwch chi ddewis gwneud mwy o waith rheolaidd os byddai hynny’n well gennych chi.

Os ydych chi’n dewis gwirfoddoli yn y siop yn Llandrindod, rydyn ni’n gofyn ichi ymrwymo i’r sesiwn gyfan, sy’n para am 3 awr.

Os ydych chi’n gwirfoddoli gyda’r grŵp cadwraeth, mae eu diwrnod yn para am ryw 6 awr.

 

A fydda’ i’n derbyn hyfforddiant?

Byddwch. Pa bynnag rôl wirfoddoli rydych chi’n ei dewis, fe fyddwch chi’n derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi i sicrhau bod y sgiliau gennych chi i gyflawni’r rôl yn ddiogel.

Dydw i ddim yn gwybod llawer am fywyd gwyllt – alla’ i dal wirfoddoli?

Gallwch; mae gwirfoddoli’n ffordd wych i ddysgu mwy am ein bywyd gwyllt a deall mwy am yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu i’w warchod.

Oes angen i mi fod yn heini i wirfoddoli?

Ddim o gwbl!  Mae gwirfoddoli’n wych ar gyfer eich llesiant corfforol a meddyliol.  P’un a ydych chi ar dân i fynd amdani a chael ymarfer egnïol neu’ch bod chi ychydig yn sigledig ar eich traed ac yn edrych am ymarfer ysgafn, mae yna dasgau a thiroedd i weddu i bob lefel.

Iawn, mae gen i ddiddordeb! Sut ydw i’n dechrau arni?

Mynnwch olwg ar rai o’n cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi’u hamlinellu uchod ac yna cysylltwch â’r person sydd wedi’i grybwyll; fe fyddan nhw wedyn yn cysylltu yn ôl â chi i weld beth y gallwn ni ei drefnu ar eich cyfer.