Lle sy’n cynnig gobaith i bobl a byd natur
Dychmygwch dirwedd yn llawn suon, trydar a bwrlwm bywyd gwyllt. Tirwedd sy’n cynnig ac yn cynnal gobaith – gobaith am fyd gwell i fyd natur a phobl.
Bydd y tir ym Mhentwyn yn cael ei drawsnewid yn oasis sy’n llawn hymian, suon a thrydar, lle gellir clywed galwadau adar sydd dan fygythiad unwaith eto. Mae wedi’i leoli wrth ymyl tir gwyllt arall, felly mae potensial da i helpu bywyd gwyllt i ffynnu eto ar draws ardal ehangach drwy ehangu a chysylltu cynefin gwyllt.
(c) Megan Abram
Cyfrannwch at Bentwyn
Ein Gweledigaeth
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed am i Bentwyn fod yn fwy gwyllt drwy wneud lle i fyd natur a chaniatáu i brosesau naturiol ddatblygu, ond yr ydym hefyd am iddi fod yn fferm. Model o fferm newydd ar gyfer y dyfodol. Gyda chig lles uchel, mewnbwn isel yn cael ei gynhyrchu o’r stoc, a llysiau, ffrwythau a chnau’n cael eu cynhyrchu gan y busnes garddio masnachol, a fydd wedi rhoi cyfle i newydd-ddyfodiad i fyd ffermio. Yn bennaf oll, rydym am weld byd natur yn cynyddu ar y tir, denu pobl i mewn, rhoi ymdeimlad o les iddynt, eiliadau o ryfeddod a gobaith i ddyfodol pob un ohonom. Yn hollbwysig, ar gyfer Pentwyn rydym wedi creu gweledigaeth uchelgeisiol 30 mlynedd ar gyfer y dyfodol, y gallwch ei darllen isod:
Rydyn ni’n cynrychioli cymuned o bobl sy’n caru natur ac felly dydyn ni ddim yn ffermio’r tir yn y ffordd gonfensiynol bresennol. Byddwn yn agored am hyn ac am yr angen i ddod o hyd i ffordd o adfer natur ar y safle, sy’n darparu manteision ehangach i’r dirwedd ac i’r gymuned, sy’n bodoli ochr yn ochr â dyfodol ffermio, ond sydd hefyd yn cynnig enghreifftiau o’r hyn y gellir ei wneud mewn busnesau fferm er budd natur. Byddwn yn ceisio creu cyfleoedd cyflogaeth a dod ag arian i’r economi leol drwy ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol. Mae gennym sylfaen staff a gwirfoddolwyr sy’n byw yn yr ardal ac sy’n weithgar yn y gymuned.
Prosiect Pentwyn Mwy Gwyllt
Ym mis Medi 2023, dechreuodd Prosiect Pentwyn mwy Gwyllt, sy’n cael ei ariannu am ddwy flynedd. Mae wedi cymryd amser i ni sefydlu ein hunain ar y safle, ac rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar ad-dalu’r benthyciad, ond bydd y gweithgarwch nawr yn dechrau cyflymu ym Mhentwyn gyda’r prosiect hwn ar waith!
Mae prosiect Pentwyn mwy Gwyllt yn bosibl diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Gallwch wneud gwahaniaeth
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.
Drwy gyfrannu, gallwch ein helpu i gael sir Faesyfed fwy gwyllt.
Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod bywyd gwyllt Sir Faesyfed yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.
O daliad untro i fod yn aelod, rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith? Cofrestrwch yma!
Cyllidwyr
Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a ddarparwyd gan nifer o gyllidwyr hael.
Prosiect Cyllido Natur
Mae’r cyllid ar gyfer y pryniant wedi cael ei fenthyca gan grŵp o fuddsoddwyr preifat sy’n rhannu ein hangerdd dros alluogi adferiad bywyd gwyllt ar safleoedd ble mae byd natur wedi dirywio. Arweinir y grŵp gan Julia Davies, sylfaenydd cronfa amgylcheddol o’r enw We Have the POWER.
CREDIT: We Have the Power
Helpwyd ni gan Julia Davies o ‘We Have The Power’ ynghyd â benthycwyr haelionus eraill, Andrew MacKay a Nick Marple, i gaffael y safle hwn drwy eu prosiect Funding Nature. Mae rhagor o wybodaeth am safleoedd eraill sydd wedi cael eu caffael gan Funding Nature ar gael yma.