Archwilio Gilfach - Treftadaeth Bywyd Gwyllt

Gilfach meadow brimming with wildflowers
Archwilio Gilfach

Treftadaeth Bywyd Gwyllt

Harddwch Naturiol

Mae'r GIlfach yn lle arbennig oherwydd yr holl wahanol fathau o fywyd gwyllt sydd yma.  Mae rhai mathau o blanhigion ac anifeiliaid yn brin, eraill yn fwy cyffredin, ond cynefinoedd amrywiol y cwm sy'n ei wneud yn lle mor gyfoethog.  

Gilfach Drone Photo

Drone photograph of Gilfach

O Fesen Fach

Yn y gwanwyn mae carped o glychau'r gog a blodau serenllys yng Nghoed Derw'r Gilfach.  Mae'r coetiroedd yn lle delfrydol ar gyfer adar fel y gwybedog brith a'r tingoch.  Maen nhw'n cyrraedd yn y gwanwyn i wledda ar y creaduriaid di-asgwrn-cefn sy'n byw ac yn magu yn y coed derw.

Gilfach Bluebells

Gilfach Bluebells

Hen Borfeydd

Mae porfeydd y Gilfach yn ferw o fywyd yn yr haf.  Caiff llu o bryfetach, yn cynnwys glöynnod byw fel gweirlöynnod bach y waun, gwibwyr a brithegion perlog bach eu denu i'r caeau sy'n llawn blodau gwylltion a gweiriau.  Gwelir twmpathau morgrug yma a thraw mewn llawer o'r caeau gan ddangos na chawsant eu haredig  ers degawdau.  

Edrychwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y rhywogaethau glöynnod byw niferus a geir yma:

Môr o Liw

Daw grug y mêl, grug cyffredin ac eithin â môr o liw i'r llethrau ddiwedd haf.  Caiff pryfetach fel cacynen y llus a'r gwyfyn cringoch eu denu at eu blodau sy'n llawn neithdar.

Fox Moth Caterpillar by David Longshaw

Fox Moth Caterpillar photograph taken by David Longshaw

Ymwelwyr Cefnforol

Mae llwyfan y rhaeadr yn lle da i wylio eogiaid ym mis Tachwedd wrth iddynt lamu i fyny'r rhaeadr ar eu taith i ddodwy eu hwyau yn y pyllau lle cawsant hwythau eu silio.

Weld drosoch eich hun!