Hyfforddeiaethau Adfer Natur a Newid Hinsawdd

Nature's Recovery and Climate Change Trainee

Hyfforddeiaethau Adfer Natur a Newid Hinsawdd

Dyddiad cau – 30ain Ebrill 2023

Cyfweliadau – 10ain Mai 2023 ar Teams
Dyddiad cychwyn – Mehefin 2023

Yn ogystal â’r gromlin ddysgu serth, dwi hefyd wedi mwynhau fy amser yn fawr yn yr hyfforddeiaeth yma ac yn gweithio gyda thîm anhygoel. Mae hi wedi bod yn dri mis sydd wedi newid fy mywyd, a galla’ i ddim aros am y tri nesaf.

Os ydych chi’n chwilio am eich rôl gyntaf am dâl ym maes cadwraeth ond ddim eto’n meddu ar y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn edrych amdanyn nhw, beth am ystyried ein Hyfforddeiaethau Adfer Natur a Newid Hinsawdd? Mae ein Hyfforddeiaethau’n cynnig cyfleoedd rhagorol i ennill y sgiliau a’r profiad hanfodol sydd eu hangen i gael eich cyflogi am dâl yn y sector cadwraeth.

Mae yna lawer o bobl frwd a dawnus sydd eisiau mynd ar drywydd gyrfa ym maes cadwraeth ond sydd heb y sgiliau a’r profiad angenrheidiol.

Mae ein Hyfforddeiaethau’n darparu’r sgiliau a’r profiad hanfodol sydd eu hangen trwy hyfforddi a dysgu yn y gwaith.

Gwelwch ein cyfleoedd ar gyfer hyfforddeiaeth – mae gennon ni saith o rolau rhan-amser, di-dâl ar gael!

Beth ydy hyfforddeiaeth?

Mae’r cynllun Hyfforddeiaethau Adfer Natur a Newid Hinsawdd yn darparu 7 Hyfforddeiaeth yn Is-Sir Sir Faesyfed. Mae gennon ni ddau fath o Hyfforddeiaeth: Cadwraeth (Rheoli Gwarchodfeydd) a Chymunedol (Ymgysylltu ac Ymgyrchoedd).

Yn gyffredinol, mae hyfforddeion yn mynychu am ddeuddydd yr wythnos trwy gydol eu Hyfforddeiaeth, yn ennill profiad ymarferol ac yn dilyn hyfforddiant a fydd yn rhoi hwb i’w gobeithion o lwyddo i gael eu cyflogi am dâl ar ôl ei gwblhau.

Yr hyn y mae ein Hyfforddeion yn ei wneud

Mae hyfforddeion yn treulio mwyafrif eu hamser mewn gweithgareddau galwedigaethol perthnasol, sy’n rhoi profiad arwyddocaol iddyn nhw y gallan nhw ei nodi ar eu CV i’w ddefnyddio wrth ymgeisio am swyddi ar ddiwedd eu Hyfforddeiaeth.

Y profiad sy’n cael ei ddarparu

Mae’r cymysgedd o weithgareddau’n amrywio, gan ddibynnu ar y tîm sy’n lletya’r Hyfforddai.

Bydd y profiad a enillir yn berthnasol i natur a lleoliad pob hyfforddeiaeth a gallai gynnwys:

  • rheoli cynefinoedd
  • defnyddio offerynnau a’u cynnal a’u cadw
  • adnabod rhywogaethau
  • rheoli gwirfoddolwyr
  • trefnu digwyddiadau
  • trefnu cymunedol
  • datblygu a chyflawni ymgyrchoedd
  • creu gwefannau a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
  • iechyd a diogelwch

Pa hyfforddiant sy’n cael ei gynnig?

Yn ogystal â’r sgiliau hanfodol sy’n cael eu hennill trwy weithgareddau galwedigaethol, mae’r cynllun Hyfforddeion yn datblygu sgiliau trwy hyfforddiant. Mae yna raglen o hyfforddiant craidd, gyda modiwlau perthnasol ar gael i Hyfforddeion. Bydd mentor yn cefnogi’r Hyfforddeion trwy gyfarfodydd un-i-un rheolaidd i osod amcanion sy’n berthnasol i gynllun datblygu’r Hyfforddai, adolygu cynnydd â’r amcanion hyn a’u diweddaru.

Hyfforddiant craidd

Cynhelir mwyafrif yr hyfforddiant craidd yn fewnol, gan bobl sy’n arbenigo yn y pwnc dan sylw, sef aelodau o staff fel rheol. Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o gyrsiau undydd, y mae gweithgareddau yn y gwaith yn eu cadarnhau i atgyfnerthu’r hyn sy’n cael ei ddysgu a rhoi profiad go iawn i hyfforddeion.

Bydd pob hyfforddai yn cymryd rhan mewn Cyflwyniad i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, a hyfforddiant mewn Sgiliau Cyfweld ac Ymgeisio.  Ar ben hyn, mae yna hyfforddiant perthnasol dewisol ychwanegol ar gael. Ymhlith yr enghreifftiau o fodiwlau dewisol sydd ar gael mae:

Cynllunio Gwaith Rheoli Gwarchodfeydd

Pori er Cadwraeth

Rheoli Da Byw ar Warchodfeydd

Cyhoeddusrwydd a’r Cyfryngau Cymdeithasol

Ymgyrchoedd

Trefnu Cymunedol

Diogelwch ar y Safle

Gweithdy Offerynnau

Arwain Grwpiau Ymarferol (Gwirfoddolwyr)

Arwain Taith Gerdded Dywysedig neu ddigwyddiad

Cynllun Datblygu Personol Unigol

Ar ddechrau’r Hyfforddeiaeth, bydd pob Hyfforddai’n cyfarfod â’i fentor/ ei mentor i gytuno ar amcanion, yn unol â chynllun datblygu’r Hyfforddai.  Mae’r broses hon yn rhoi’r cyfle i Hyfforddeion osod amcanion perthnasol ar gyfer eu Hyfforddeiaeth tan y diwedd. Caiff y rhain eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd yn ystod cyfarfodydd un-i-un â’u mentor.

 

Yn ogystal â’r cyfleoedd hyfforddi ac ennill profiad uchod, â’r nod o gynorthwyo Hyfforddeion i ddod yn rhan o’r gweithlu cadwraeth, mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu hyfforddiant perthnasol sydd wedi’i ardystio’n genedlaethol i Hyfforddeion ac yn gwneud iawn am rai treuliau teithio.

Fydda i’n cael fy nhalu?

Mae’r swydd hon yn un wirfoddol; fodd bynnag, fe fyddwch chi’n derbyn hyfforddiant, treuliau teithio a £200 i dalu am gyrsiau hyfforddi achrededig, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch chi

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn cadwraeth bywyd gwyllt yn y DU, bod yn eithaf ffit a bod yn barod i oruchwylio ac arwain gwirfoddolwyr.

Dylai ymgeiswyr fod rhwng 18 a 24 oed ar ddechrau’r hyfforddeiaeth.

Mae’n hanfodol ymrwymo i ddeuddydd yr wythnos am chwe mis.

Stand for Nature Wales

Stand for Nature Wales is a Wales-wide project aimed to empower young people aged 9-24 to take action to tackle climate change and contribute towards nature’s recovery. One of the project’s objectives is to train and upskill young people to become the next generation of ecologists, conservationists, and environmentally conscious adults.

Find out more

National Lottery Community Fund logo

The National Lottery Community Fund 

Traineeship made possible by The National Lottery players through the Community Fund - Climate Action Fund.

PPL logo

Traineeship made possible by players of People's Postcode Lottery through Pioneer Funding.