Cerdded Cŵn mewn Gwarchodfa Natur

Dogs on lead by Peter Cairns

Walking dogs by Peter Cairns/2020VISION

Cerdded Cŵn mewn Gwarchodfa Natur

Gwybodaeth i Berchnogion Cŵn

Dydyn ni ddim yn caniatáu cŵn y mae’n rhaid iddyn nhw fod dan reolaeth lem ar unrhyw un o’n gwarchodfeydd natur.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser.

Mae croeso i berchnogion cyfrifol a’u cŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn ym mwyafrif ein gwarchodfeydd natur.  Pan ganiateir cŵn ar warchodfeydd, mae gennyn ni bolisi llym ynglŷn â chadw cŵn ar dennyn.

Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed ydy perchennog y tir yn y rhan fwyaf o achosion ac, fel y cyfryw, mae’n cadw’r hawl i ganiatáu cŵn ar ei gwarchodfeydd natur neu beidio.  Gofynnwn i berchnogion cŵn barchu’r bywyd gwyllt a’u cyd-gerddwyr, gan gofio na fydd pob un ohonyn nhw’n caru cŵn.

Mae baw cŵn yn gallu achosi problemau i fywyd gwyllt, trwy gynyddu’r maetholion ac felly bygwth rhywogaethau a chymunedau planhigion pwysig, mae’n annifyr ac fe allai fod yn beryglus i ymwelwyr eraill yn ogystal â staff a gwirfoddolwyr.  Cofiwch lanhau ar ôl eich ci bob amser.  Diolch yn fawr.

Ni chaniateir cŵn yn y Gwarchodfeydd hyn

Cors Burfa, Coed Fronwen, Llyn Llanbwchllyn, Cors Pentrosfa, Sideland a Bryn Tylcau (Floss Brand).

Dogs on lead logo

Cerdded Cŵn

 

  • Cadwch eich ci ar dennyn.

  • Cofiwch lanhau ar ôl eich ci bob amser. 

  • Peidiwch fyth â gadael i’ch ci redeg ar ôl bywyd gwyllt nac anifeiliaid yn pori.

  • Gwnewch yn siŵr nad ydy ymddygiad eich ci yn fygythiad neu’n broblem i ymwelwyr eraill.

  • Dilynwch bob arwydd am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â cherdded eich ci.

Baw Ci - Beth i’w wneud

Mewn parciau cyhoeddus neu ystadau preifat fe fyddwch chi’n aml yn gweld biniau arbennig ichi roi’r baw ci ynddyn nhw.  Yn anffodus, dydy Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed ddim yn gallu cynnig yr un gwasanaeth, felly gofynnwn yn garedig ichi fynd â’ch bagiau baw ci i’r bin agosaf neu ewch ag ef adref i’ch canlyn. Ni fydd staff neu wirfoddolwyr yn symud baw ci sydd wedi’i adael mewn bagiau ar waliau neu’n hongian mewn coed.

Byddwch yn ystyriol, byddwch yn gyfrifol, codwch y baw ci.  Diolch yn fawr.

Bagiwch ef er budd Bywyd Gwyllt

Mae rhai perchnogion cŵn yn meddwl bod baw cŵn yn ‘naturiol’ a’u bod nhw’n cael ei adael yn y fan a’r lle. Dydy hyn ddim yn wir! A bydd y glaw ddim yn ei olchi i ffwrdd chwaith! Dydy cŵn ddim yn chwilota am borthiant yn y gwyllt fel anifeiliaid gwyllt ac felly dydy eu hysgarthion ddim yn naturiol chwaith.

Mae angen pridd heb fawr o faethynnau ar flodau gwyllt a phlanhigion iddyn nhw ffynnu. Mae pridd wedi’i gyfoethogi ag ysgarthion cŵn yn annog tyfiant planhigion mwy garw fel danadl poethion ac ysgall, sy’n cystadlu â’r blodau gwyllt ac yn tyfu ynghynt na nhw.

Bagiwch ef er budd Pobl

Mae teuluoedd â phlant yn defnyddio ein gwarchodfeydd natur yn ogystal â phobl mewn cadeiriau olwyn, gwirfoddolwyr a staff.  Mae glanhau ar ôl eich ci’n atal eraill rhag cael ysgarthion ar eu traed, dwylo neu ddillad, neu mewn olwynion cadeiriau olwyn neu fygis babi. Mae ysgarthion cŵn yn annifyr ond maen nhw hefyd yn gallu achosi clefydau difrifol mewn pobl fel Tocsocariasis, sy’n gallu arwain at ddallineb e.e. pan fo staff/ gwirfoddolwyr yn torri ymylon y llwybrau i’w cadw nhw’n glir ar gyfer ymwelwyr.

Bagiwch ef er budd Da Byw

Mae baw cŵn yn gallu achosi clefydau difrifol mewn da byw domestig. Gall Neosporosis achosi erthyliad mewn gwartheg a gall Sarcocystosis achosi clefyd niwrolegol a marwolaeth mewn defaid.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi help ein cefnogwyr yn fawr wrth osod esiampl a chyfleu pwysigrwydd ymddwyn yn ystyriol yng nghefn gwlad Sir Faesyfed.