Gilfach

Gilfach Nature Reserve

Gilfach Nature Reserve by Daniel Oates

Redstart by Tony Coombs

Tony Coombs

Gilfach meadow brimming with wildflowers
RWT Gilfach Longhouse from above

Julian Ravest

55 o adar bridio
6 o rywogaethau o ystlumod
413 o rywogaethau o gen
1 Canolfan Ymwelwyr
Hen fferm fynydd â golygfeydd gogoneddus, â chyfoeth o fywyd gwyllt a hanes.

Location

Oddi ar y ffordd A470 Rhaeadr Gwy i Langurig
Rhaeadr Gwy
Powys
LD6 5LF

OS Map Reference

SN 962 718
A static map of Gilfach

Know before you go

Maint
166 hectares
z

Pris mynediad

Rhoddion os gwelwch yn dda
P

Manylion parcio

Maes parcio wrth fynedfa’r Porth Croeso oddi ar yr A470

Parcio beic

Oes

Anifeiliaid pori

Gwartheg a defaid o fis Ebrill i fis Tachwedd

Llwybrau cerdded

Mae sawl llwybr â chyfeirbwyntiau, gan gynnwys Llwybr Hwylus byr ar gyfer y rheini sy’n cael trafferth symud, o Hen Fuarth y Fferm.

Map A4 o Lwybrau’r Gilfach

Map A4 Gilfach mewn Print Brasach

Mynediad

Ar ôl parcio ger y Porth Croeso, mae yna fap mawr ychydig y tu hwnt i’r Caban yn dangos yr holl lwybrau cerdded sy’n mynd â chi o gwmpas gwarchodfa’r hen fferm fynydd, gyda gwybodaeth yn y Caban ac wrth Hen Fuarth y Fferm ynglŷn a pha fywyd gwyllt i gadw llygad yn agored amdano.

Dogs

Ar dennyn
i

Facilities

Canolfan ymwelwyr
Toiledau
Safle picnic
Toiled i'r anabl
Disabled parking

When to visit

Amseroedd agor

Mae’r warchodfa ar agor trwy’r flwyddyn ond mae’r Tŷ Hir ar gau i’r cyhoedd gan ei fod wedi’i rentu’n breifat.
Yn Hen Fuarth y Fferm, mae’r Beudy ar agor â bocs gonestrwydd ar gyfer lluniaeth, toiled i’r anabl a llawer o wybodaeth am y warchodfa.

Amser gorau i ymweld

Mis Ebrill i fis Tachwedd

Am dan y warchodfa

Am ganrifoedd, roedd Gilfach yn fferm fynydd weithredol; nawr mae’n warchodfa natur ysblennydd yn swatio ynghudd yn Nyffryn Marteg yng nghalon ardal wledig Canolbarth Cymru.  Mae da byw yn dal i bori yno ar adegau penodol o’r flwyddyn i warchod ei gyfoeth o fywyd gwyllt.

Gydag amrywiaeth ardderchog o fywyd gwyllt, mae’r llwybrau cerdded â chyfeirbwyntiau wedi’u cynllunio er mwyn ichi fwynhau’r warchodfa a lleihau’r effaith y byddwch chi’n ei chael arni ar yr un pryd.  Caniateir cŵn ond mae’n rhaid eu cadw ar dennyn i bawb gael mwynhau ac mae’n rhaid codi’r baw cŵn a chael gwared ohono o’r warchodfa.  Am ragor o wybodaeth ynglŷn â pham, cliciwch yma.

Mae Gilfach yn lle arbennig, sy’n enwog am ei wybedog brith, bronwen y dŵr, y tingoch ac eog yn llamu, gydag Afon Marteg yn llifo trwyddo.  Yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yma ydy’r hyn sy’n gwneud Gilfach yn wahanol.  Gellir gweld dros chwarter o’r holl gennau yng Nghymru yn tyfu yma!

Mae grug y mêl, grug yr ysgub a’r eithin yn dod â choelcerth o liw i’r llechweddau tuag at ddiwedd yr haf. Mae eu blodau â’u cyfoeth o neithdar yn denu trychfilod fel cacynen y llus (Bombus monticola) a gwyfyn y cadno.

Mae glöynnod byw wrth eu boddau â’r blodau gwyllt a’r glaswelltau, yn eu mysg y fritheg berlog fach, y glesyn cyffredin a’r brithribin gwyrdd i enwi dim ond rhai.  Mae dros saith deg gwahanol fathau o adar wedi’u cofnodi, gyda dwy ran o dair ohonyn nhw’n dewis bridio yma.  Mae’r llinos bengoch, y bras melyn, crec yr eithin, y llinos, y barcud coch, y gwybedog mannog a’r gog i gyd yn treulio amser yng ngwarchodfa Gilfach.

Contact us

Radnorshire Wildlife Trust
Cyswllt ffôn: 01597 823298
Cyswllt e-bost: info@rwtwales.org

Dynodiad amgylcheddol

Scheduled Ancient Monument
Site of Special Scientific Interest (SSSI)
Special Areas of Conservation (SAC)
Special Protection Areas (SPA)