Diolch ichi am ystyried codi arian ar ein rhan. Mae pob ceiniog rydych chi’n ei chodi’n helpu i warchod bywyd gwyllt yn Sir Faesyfed i bawb ei fwynhau.
P’un a ydych chi awydd trefnu sêl gacennau, gwneud taith gerdded noddedig neu hyd yn oed herio’ch hun i grwydro mynyddoedd, fe allwch chi helpu i godi arian hanfodol a gwneud gwahaniaeth go iawn er budd bywyd gwyllt. Beth bynnag fo’ch doniau, fe allwch chi ddefnyddio’ch sgiliau a gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau i helpu i godi arian hanfodol bwysig.
Set up a just giving page!
Simply visit www.justgiving.com and create an account. Click on 'start fundraising' and choose radnorshire wildlife trust as the charity you want to fundraise for.
Cyflwyno’r arian i ni
Unwaith rydych chi wedi codi’ch arian, fe allwch chi naill ai dalu’r arian yn uniongyrchol i mewn i’n cyfrif banc neu ysgrifennu siec a’i hanfon aton ni yn y post. Sieciau yn daladwy i 'Radnorshire Wildlife Trust' neu 'RWT'.
Mae ein cyfeiriad post, rhif ffôn ac e-bost ni isod. Cysylltwch â ni os oes angen ein manylion banc arnoch chi i wneud trosglwyddiad banc. Diolch yn fawr.