Ymgyrch Cerdyn Post Achub yr Afon Gwy

Kingfisher

Kingfisher by Mike Snelle

Rivers are our lifeblood

Send your MS a postcard!

Cleaning up the River Wye catchment is a key part of our strategy. Our overarching asks are:

  • Enforce the law - We want to see existing standards and targets properly enforced by the regulators across the entire catchment. 
  • A moratorium on any new chicken sheds in the Wye catchment until the problem is ‘sorted’ local authorities, government and the food system all have a responsibility in this. 
  • A vision for a healthy and vibrant catchment to build support and help drive investment to create this - We need to start building a catchment that is resilient and nature rich for future generations.

Anfonwch cerdyn post i'ch AS

Gall eich Aelod Seneddol cyfansoddol helpu i #AchubAfonGwy. Gofynnwch iddynt godi llais drwy anfon cerdyn post a fydd yn glanio ar drws eu swyddfa.

Dewiswch eich cerdyn post

Gallwch ddewis o un o'r pedwar opsiwn isod. Cliciwch ar y cerdyn post sydd orau gennych a dechrau ysgrifennu eich neges.

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n gallu darganfod fy AS?

Unwaith rydych chi wedi dewis eich delwedd cerdyn post, byddech yn cael eich ailgyfeirio at blatfform PostBug er mwyn dewis eich AS ac ysgrifennu eich cerdyn post. Pan ofynnon nhw, teipiwch eich côd post a bydd y platfform yn llenwi eich cerdyn post gyda manylion AS i’ch ardal.

Os ydych chi eisiau fwy o wybodaeth am eich AS etholiadol neu ranbarthol, gallwch chwilio am eich Aelodau Seneddol yma.

 

 

Sut bydd fy ngherdyn post yn cael ei ddanfon?

Unwaith rydych chi wedi llenwi eich cerdyn post bydd yn ymddangos fel ‘yn nes’ ar y platfform rydyn yn defnyddio, sef PostBug. Bydd rhywun o ein tîm yn gwirio eich cerdyn post a'i gymeradwyo ar PostBug mor fuan â phosibl. Bydd cerdyn post yna yn cael ei ddanfon i swyddfa eich AS.

Beth sy’n digwydd wedyn?

Pan mae eich AS yn darllen y cerdyn post, bydden nhw hefyd yn gallu dilyn cyswllt i ddarganfod yn union beth mae gofyniadau’r Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed. Fe fydden ni’n dilyn hwn fyny gan ysgrifennu’n uniongyrchol at yr Aelodau Seneddol a gofyn am gyfarfod i drafod y problemau’n bellach a sut gallwn ni helpu nhw i achub yr afon Gwy.

Rydyn ni’n gobeithio bydd y Senedd yn ymateb at eich gofidiau a chymryd gweithred addas a chyflym. Mae’r Bil Amaeth (Cymru) newydd yn rhoi’r siawns unigryw i ddarparu’r newid hanfodol yma.

Fe fydden ni’n parhau i amddiffyn yr afon a’i fywyd gwyllt tan mae’r Senedd yn ymrwymo at weithred addas.

Os ydych chi’n optio fewn i glywed mwy gennym ni, fe fyddem ni’n cadw chi wedi’i diweddaru ar unrhyw newidiadau yn yr ymgyrch.

Pam targedu Aelodau Seneddol etholiadol?

Rydym wedi penderfynu ffocysu ein hymgyrch cardiau post ar AS etholiadol, ond rydym hefyd yn annog chi i ysgrifennu at eich AS rhanbarthol, sydd mor bwysig â’r AS etholiadol yn gwneud penderfyniadau o fewn y Senedd. Gallwch hefyd ysgrifennu at eich MP er mwyn codi’r problemau’r afon Gwy i’r llywodraeth DU yn lle dim ond y Senedd. Darllenwch fwy yma.

Mae llywodraeth y DU wedi datganoli awdurdod i’r Senedd mewn rhai ardaloedd. Un o’r ardaloedd yma yw’r amgylchedd. Gall AS wneud penderfyniadau a chaniatáu deddfwriaeth ar y materion datganoledig – naill ai fel rhan o’r Senedd, neu fel y gwrthgyferbyniad yn astudio nhw. Mae hwn yn golygu gallant nhw wneud newid sylweddol.

Mae Aelodau Senedd yn cael ei ethol er mwyn cynrychioli a gweithio dros ei etholwyr, felly bydden nhw bob amser eisiau glywed gennych chi!

Ydy hi’n bosibl llenwi fewn a danfon cerdyn post ddim ar-lein?

Mae ein hymgyrch yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio’r platfform PostBug. Ond, mae cardiau post copi caled yn bosibl gael ei ysgrifennu o ein siop yn Llandrindod, sydd ar agor bob Dydd Mawrth a Dydd Iau o 10yb – 12yh. Yn yr achos yma, byddech angen danfon y cerdyn post eich hun a bydden ni ddim yn talu’r gost y postio.

Cyfeiriad: Warwick House, Llandrindod, LD1 6AG.

Neu gallwch chi ysgrifennu llythyr at eich AS. Darganfyddwch eich AS yma.

 

 

Ydw i’n gallu cynorthwyo’r ymgyrch os dydw i ddim yn byw yng Nghymru?

Mae’r Senedd yn llywodraeth Gymreig, felly gallwch dim ond danfon cerdyn post at AS os ydych yn byw yng Nghymru. Os ydych yn byw tu allan i Gymru gallwch dal gynorthwyo ein hymgyrch gan ysgrifennu llythyr neu e-bost at eich MP. Darganfyddwch eich MP yma.

Mae’r problemau ansawdd dwr ar y Gwy yn effeithio Cymru a Lloegr – does dim ots lle rydych chi’n byw, rydych chi dal yn gallu siarad dros fywyd gwyllt yr afon Gwy!

Beth dylwn i wneud os ydw i’n cael broblemau yn llenwi allan cerdyn post?

Os ydych yn dod ar draws broblemau yn llenwi allan cerdyn post, gadewch wybod a fydden ni’n ceisio helpu chi/drwsio’r broblem. Cysylltwch â: chloe@rwtwales.org

Beth arall gallwn i wneud i helpu?

Rhannwch yr ymgyrch!

Cysidrwch wneud rhodd i ein gwaith. Does dim ots pa mor fach neu mor fawr, fe fydd eich rhodd yn helpu adfer natur a gweithio tuag at greu Sir Faesyfed gwylltach.

Gwneud rhodd