Cysylltiadau Gwyrdd Powys

Gilfach Views
EIN PROSIECTAU

Cysylltiadau Gwyrdd Powys

Prosiect Ymddiriedolaethau Natur ar y cyd ledled Powys sy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau bach, tirfeddianwyr a chynghorau lleol i gymryd camau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac â cholli bioamrywiaeth, ac i greu rhwydwaith adfer natur ledled y sir, ydy Cysylltiadau Gwyrdd Powys.

Gyda’n gilydd fe fyddwn ni’n arolygu a mapio bywyd gwyllt, gan roi cyngor ar reoli cynefinoedd ac atebion ar sail natur, gan helpu pobl i annog mwy o fywyd gwyllt i ddod i mewn i’w cymunedau a chynnig cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio a gwirfoddoli.

Fe wnaethon ni ddechrau’r prosiect ym mis Ebrill 2021 ac fe fydd yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2023 ar ffurf prosiect cydweithredol rhwng swyddfeydd Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a Sir Frycheiniog o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.  Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â staff yn eich ardal leol i gael rhagor o wybodaeth:

Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed (partner arweiniol)    Darylle Hardy darylle@rwtwales.org

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn    Tammy Stretton tammy@montwt.co.uk 

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru    Pauline Hill p.hill@welshwildlife.org      (Swyddfa Brycheiniog)

EAFRD WG GC logo

Eisiau cael gwybod mwy?

CS Powys, Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned

Rydyn ni’n cefnogi Cyngor Sir Powys, Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned i weithredu yn sgil y newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.

Gan adeiladu ar waith blaenorol, fe fydd Cysylltiadau Gwyrdd yn cefnogi Cyngor Sir Powys a chynghorau lleol i reoli llieiniau ymyl ffordd a mannau gwyrdd yn well er budd bywyd gwyllt ac i ychwanegu at y rhwydwaith ecolegol.

Fe fydd y prosiect hefyd yn cefnogi CSP i gynllunio seilwaith gwyrdd a gwneud Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol a Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur yn rhan annatod o’r system gynllunio trwy nodi, dynodi a mapio’r mannau gorau am fywyd gwyllt ym Mhowys.

Tirfeddianwyr a thyddynwyr

Rydyn ni’n cynghori ac yn annog tirfeddianwyr i wella’r ffordd o reoli cynefinoedd ac i gryfhau’r rhwydweithiau ecolegol.

Mae llawer o’r tirfeddianwyr yn awyddus i wella’u tir ar gyfer bywyd gwyllt ond maen nhw’n ansicr ynglŷn â lle i ddechrau.  Fe fydd cyngor ynglŷn â rheoli cynefinoedd a monitro rhywogaethau ar gael ar gyfer tirfeddianwyr a chymunedau i’w helpu nhw i ymgymryd â gwaith er budd bywyd gwyllt.

Ein nod hefyd ydy cysylltu tirfeddianwyr â gwirfoddolwyr i arolygu a monitro bywyd gwyllt ar eu tiroedd. Fe fydd y wybodaeth yn cyfrannu at ddealltwriaeth Cymru-eang o ddosbarthiad bioamrywiaeth ac yn galluogi ein tîm i ddarparu cyngor ynglŷn â rheoli, edrych am atebion ar sail natur, datblygu cysylltedd ecolegol a helpu pobl i geisio ffrydiau cyllid i alluogi bwrw ati â’r gwaith.

Rhywogaethau prin ac anghyffredin

Fe fyddwn ni’n ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd penodol ar gyfer rhywogaethau prin neu anghyffredin ar safleoedd wedi’u targedu yn y cefn gwlad ehangach.

Fe fydd y prosiect yn gwneud gwaith rheoli cynefinoedd penodol ar safleoedd wedi’u targedu lle y gellir gwneud gwahaniaeth sylweddol i werth y safle i fywyd gwyllt. Gall hyn fod trwy glirio prysgwydd, gwella gweirgloddiau neu atgyfnerthu neu ailgyflwyno rhywogaethau anghyffredin i gynefinoedd penodol a fydd â siawns dda o ledaenu’n naturiol.

Cymunedau a grwpiau cymunedol

Rydyn ni’n helpu grwpiau cymunedol i wella’u hamgylchedd naturiol a gweithredu dros newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.

Rhan bwysig o’r prosiect fydd cefnogi grwpiau cymunedol i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol trwy reoli mannau gwyrdd a gerddi cymunedol. Fe fyddwn ni’n helpu grwpiau o bob oedran i ddatblygu syniadau ac ymgymryd â gwaith a fydd o fudd i fywyd gwyllt yn ogystal ag iechyd a llesiant pobl.  Fe fyddwn ni’n cynnig cyngor a hyfforddiant yn ogystal â nodi a chofnodi cynefinoedd.

Fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu mentrau cymunedol sy’n tyfu rhywogaethau a choed brodorol, naill ai i wella’u mannau gwyrdd a’u gerddi neu i’w gwerthu er mwyn codi arian ar gyfer mwy o waith.

Gwirfoddoli, arolygu bywyd gwyllt a hyfforddiant

Fe fyddwn ni’n darparu cyfleoedd i bobl gael dysgu am fywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a gwirfoddoli.

Fe fydd staff ac arbenigwyr lleol yn arwain hyfforddiant ar fywyd gwyllt i wirfoddolwyr, cymunedau a thirfeddianwyr. Hefyd, fe fydd yna gyfleoedd i gael hyfforddiant ar lefel ganolraddol trwy sefydliadau neu hyfforddwyr allanol, nad ydyn nhw bob amser ar gael i wirfoddolwyr.  Ymhlith yr enghreifftiau mae mapio cynefinoedd a monitro newid i dirfeddianwyr, cyrsiau cymorth cyntaf i wirfoddolwyr a hyfforddiant diogelwch coed ar gyfer perchnogion coetiroedd cymunedol.

Os oes angen hyfforddiant ar eich grŵp cymunedol chi neu os ydych chi’n meddwl y bydden nhw’n ei fwynhau, cysylltwch â ni!

Busnesau gwledig

Cefnogi busnesau gwledig i wneud newidiadau i’w ffordd o reoli’r tir er mwyn rhoi atebion ar sail natur ar waith a chefnogi bioamrywiaeth.

Rydyn ni am annog busnesau twristiaeth wledig a stadau diwydiannol i wella’u ffordd o reoli eu mannau gwyrdd o gwmpas eu hadeiladau a’u meysydd parcio er budd bywyd gwyllt.  Gellir darparu cyngor ar atebion ar sail natur, er enghraifft gerddi glaw, gweirgloddiau bychan a phlannu cyfeillgar i beillwyr.

Bydd y prosiect yn sefydlu bathodyn ‘Rheoli Er Budd Bywyd Gwyllt’ i fusnesau, tirfeddianwyr a chymunedau sy’n rheoli eu mannau gwyrdd er budd yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

Adnoddau ychwanegol

Am ragor o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol a fydd o ddefnydd i unrhyw un â diddordeb yn y prosiect, ewch i’n tudalen adnoddau ychwanegol.  Fe fydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n barhaus wrth i amser fynd yn ei flaen, felly cofiwch wirio am fwy o wybodaeth o dro i dro.

Cliciwch yma i fynd i’n tudalen Adnoddau Ychwanegol.

Chwarae Rhan!

Mae yna ddigonedd o ffyrdd i gefnogi’r prosiect:

  • Ymuno â’n digwyddiadau a’n gweithgareddau!

  • Cofrestru i fod yn Wirfoddolwr!

  • Gwneud rhodd i’r Ymddiriedolaeth!

  • ...A llawer mwy!

 

Beth am ein Cefnogi!    Cymerwch Gip ar yr Hyn Sydd ar y Gweill!

Prosiect Cysylltiadau Gwyrdd – Er Budd y Wennol Ddu

Mae’r Wennol Ddu yn aderyn o faint canolig sydd wrth ei fodd yn yr awyr ac sy’n hedfanwr gwych. Mae’n aderyn y creigiau a’r tyllau ac yn aml fe fydd yn defnyddio adeiladau yn y DU i nythu.  Gwaetha’r modd, bu gostyngiad o 50% yn nifer yr adar hyn drwy’r byd i gyd dros y 25 mlynedd diwethaf.

Fel rhan o brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys, fe hoffen ni dynnu sylw at gyflwr y Wennol Ddu a mapio safleoedd eu nythod er mwyn gallu nodi ardaloedd lle mae’r Wennol Ddu yn cartrefu ar hyn o bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymdrech hon, ewch i’n tudalen sydd wedi’i neilltuo i hyn:

Cysylltiadau Gwyrdd – Er Budd y Wennol Ddu