Dolffin trwyn potel
Y dolffiniaid trwyn potel yn nyfroedd Prydain yw’r rhai mwyaf o’u bath – maen nhw angen gallu ymdopi â’n dŵr oer ni! Dyma greaduriaid cymdeithasol iawn ac maen nhw’n fwy na pharod i nofio ochr yn ochr â chychod, gan ddarparu profiad bywyd gwyllt rhyfeddol i’r bobl ar y cwch.
Enw gwyddonol
Tursiops truncatusPryd i'w gweld
Ionawr - RhagfyrSpecies information
Ystadegau
Hyd: hyd at 4 mPwysau: 500 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 45-50 mlynedd
Statws cadwraethol
Mae wedi’i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981, wedi’i restru o dan CITES Atodiad II a’i ddosbarthu fel Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Hefyd mae wedi’i warchod o dan Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ac ati) (Gogledd Iwerddon) 1995