Ydych chi wedi gweld y twmpathau tebyg i bryfed genwair yma erioed ar draethau? Arwyddion o lyngyr y traeth yw’r rhain! Nid yw’r llyngyr eu hunain i’w gweld byth bron, ac eithrio gan bysgotwyr sy’n cloddio amdanyn nhw fel abwyd.
Mae llyngyr y traeth yn byw mewn tyllau yn y tywod ar y traeth ac yng ngwely tywodlyd y môr. Mae eu tyllau’n siâp U ac yn cael eu ffurfio wrth i lyngyr y traeth lyncu tywod ac wedyn ei ysgarthu, gan greu pentyrrau tonnog o dywod ar hyd y draethlin. Yr enw ar y rhain yw ‘tywod llyngyr’ neu ‘casts’ yn Saesneg. Maen nhw’n bwydo ar anifeiliaid bach a sylwedd marw sy’n cael eu hidlo drwy’r tywod maen nhw’n ei fwyta. Maen nhw’n fyrbryd blasus i adar fel y gylfinir a’r rhostog.
Sut i'w hadnabod
Pan mae’r llanw’n mynd allan, mae ‘tywod llyngyr’ troellog i’w gweld ym mhen draw tyllau llyngyr y traeth. Cadwch lygad am bant bychan yn y tywod wrth y pen ble mae’r llyngyr wedi treulio’r tywod. Mae’r llyngyr eu hunain yn amrywio o ran lliw, o ddu neu frown i binc neu wyrdd.
Dosbarthiad
I’w gweld ar lannau tywodlyd a mwdlyd bob cam o amgylch ein harfordir ni.
Roeddech chi yn gwybod?
Mae dwy rywogaeth o lyngyr ar ein glannau ni sy’n cael eu hadnabod fel “llyngyr y traeth” cyffredin: y llynghyren chwythu a’r llynghyren ddu. Mae’r llynghyren ddu yn rhywogaeth wahanol ac, fel mae’r enw’n awgrymu, du yw ei lliw.