Cyngor ar Fywyd Gwyllt

Common frog by Guy Edwards

Common frog (Rana temporaria) by Guy Edwardes/2020VISION

Cyngor ar Fywyd Gwyllt

Gwybodaeth a chyngor ar fywyd gwyllt

Mae gweld bywyd gwyllt yn gallu bod yn anhygoel, ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud mewn rhai amgylchiadau. Efallai’ch bod chi wedi taro ar anifail sydd wedi’i anafu neu wedi marw, neu efallai’ch bod chi’n amau bod trosedd wedi’i chyflawni.  Fe geisiwn ni wneud ein gorau i’ch cynghori ynglŷn â phwy i ofyn iddyn nhw am gymorth.

Pwy ddylwn i roi gwybod iddyn nhw am ddigwyddiad?

Yma yng Nghymru, mae angen rhoi gwybod i gorff Cyfoeth Naturiol Cymru am y mwyafrif o ddigwyddiadau.

Cyfoeth Naturiol Cymru ydy’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru – yn cyflogi 1,900 o staff ledled Cymru gyda chyllideb o £180 miliwn. Ffurfiwyd y corff ym mis Ebrill 2013, gan ymgymryd â swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i raddau helaeth, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Bywyd gwyllt sy’n sâl neu wedi’i anafu

 

Does gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed mo’r adnoddau, cyfleusterau na’r hyfforddiant i achub bywyd gwyllt sydd mewn angen.

Os y byddwch chi’n dod o hyd i anifail sy’n sâl neu wedi’i anafu ac sydd, yn eich barn chi, angen help, cysylltwch â’r RSPCA neu Cuan Wildlife Rescue.

Darllenwch fwy am beth i’w wneud os y byddwch chi’n dod o hyd i aderyn sydd wedi’i anafu.

Rhifau Defnyddiol Eraill

 

Modrwyo Adar – pam ei wneud a sut i roi gwybod am fodrwy y byddwch chi’n dod o hyd iddi; ewch i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.

Erledigaeth Adar Ysglyfaethus – mae’r Heddlu wedi sefydlu menter Ymgyrch Dylluanod sy’n esbonio beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud a sut i helpu.

Cyngor ar Ystlumod – Mae gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod linell gymorth a chyngor manwl ar eu tudalennau gwe.

Gwneud Rhodd

Rydyn ni’n ddiolchgar am bob rhodd, mawr neu fach. Diolch yn fawr.
£