Gwlad y Pethau Gwyllt

Where the Wild Things Are Todleth Hill

Where the Wild Things Are

Gwarchod Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ym Mhowys

Gwarchod Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ym Mhowys

Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol Powys yn ardaloedd o dir cwbl eithriadol, sy’n hanfodol bwysig i fywyd gwyllt a phobl. Fodd bynnag, er eu bod nhw’n rhan o’r system gynllunio, mae’r safleoedd hyn a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu i’r gymuned leol (e.e. mynediad, twristiaeth, iechyd a llesiant) dan fygythiad nawr yn fwy nag erioed.

O goedlannau hynafol cyfriniol i fynwentydd tawel; o wrychoedd hyd ymyl y caeau i goedlannau bychan ac ochrau ffyrdd prysur â chyfoeth o flodau; mae gan y DU fannau gwyllt arbennig, disylw’n aml, lle mae natur yn ffynnu.  Boed ym mherfeddion cefn gwlad neu’n swatio mewn trefi a dinasoedd prysur, Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ydy’r lleoedd pwysicaf ar gyfer natur, ac eithrio ardaloedd gwarchodedig fel y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Rhoi cyfle i fywyd gwyllt Powys

Mae prosiect Yng Ngwlad y Pethau Gwyllt bellach wedi dod i ben, ond nid dyma’r diwedd i Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol Powys; a dweud y gwir, megis dechrau mae pethau!

Mae’r prosiect hwn wedi ennyn momentwm newydd ynghylch Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ac rydyn ni eisoes yn ceisio arian i adeiladu ar hyn. Gyda meini prawf newydd ar gyfer dethol ar waith, fe fyddwn ni’n ceisio dewis rhagor o safleoedd, gan ddarparu darlun cliriach o lawer o ansawdd cefn gwlad Powys. Rydyn ni hefyd eisiau gweithio gyda mwy o lawer o bobl, i helpu ein gilydd i greu rhwydwaith ecolegol cryf ledled y rhan ryfeddol hon o Ganolbarth Cymru, gan wrthdroi’r dirywio a fu mewn natur, a gwella llesiant i bawb ar ddiwedd y dydd.

Surveying by Matthew Roberts

Matthew Roberts

Ydych chi’n berchennog / rheolwr tir?

 

Ydych chi wrth eich bodd â bywyd gwyllt? Ydych chi eisiau dysgu mwy am helpu bywyd gwyllt ar y tir? Cysylltwch â swyddfa Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn emma@rwtwales.org

Beth ydy Safleoedd Bywyd Gwyllt a pham eu bod nhw o bwys?

Mae gan y mwyafrif o ffermydd a thai gwledig ardaloedd sy’n cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu bywyd gwyllt diddorol; cae lle mae cornchwiglod yn nythu ac yn magu eu cywion neu glawdd â pherth yn llawn blodau a glöynnod byw yn yr haf. Mae hyd yn oed safleoedd sy’n agos at ardaloedd trefol yn gallu bod yn bwysig, gan eu bod nhw’n darparu coridorau bywyd gwyllt i mewn i’r trefi.

Mae ardaloedd lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu yn hynod bwysig ac mae ymddiriedolaethau natur ledled Cymru’n nodi’r ardaloedd arbennig hyn fel Safleoedd Bywyd Gwyllt. Rhain ydy’r lleoedd pwysicaf ar gyfer natur, y tu allan i’r ardaloedd gwarchodedig fel y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

LWS WT Infographic

Adroddiad ar Brosiect Yng Ngwlad y Pethau Gwyllt

Cafodd prosiect Yng Ngwlad y Pethau Gwyllt ei ariannu gan:

Where the Wild Things Are Sponsors
Cronfa Amaethyddol Eqrop ar gyfer Datblygu Gwledif; Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig
The European Agricultural Fund for Rural Development: Europe investing in Rural Areas
Where the Wild Things Are Bog Survey

Where the Wild Things Are

Meini Prawf Newydd ar gyfer Powys wedi’u cwblhau

 

Un o nodau’r prosiect oedd archwilio’r system bresennol o ran sut roedd Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn cael eu hasesu a’u dethol ym Mhowys, er mwyn sicrhau bod y broses hon yn hawdd i’w gweithredu ac yn rhan annatod o system gynllunio Powys yn y dyfodol.

Where the Wild Things Are Riverside

Where the Wild Things Are

PROSIECT YNG NGWLAD Y PETHAU GWYLLT

Yr hyn y gwnaethon ni ei gyflawni

 

Gwnaeth 69 o wirfoddolwyr unigol rodd o dros 1,000 o oriau o’u hamser, â gwerth o bron £15,000

 

Cwblhawyd 199 o arolygon

 

Sefydlwyd 3 rhwydwaith