Digwyddiad Lansio ar gyfer Prosiect Adfer Porfa Rhos

Digwyddiad Lansio ar gyfer Prosiect Adfer Porfa Rhos

Croesawodd y Digwyddiad Lansio swyddogol ar gyfer Prosiect Adfer Porfa Rhos bobl o bob cwr o'r gymuned ffermio a'r gymuned natur i'r Glôb Byw, i wrando, trafod a rhannu meddyliau a syniadau am ddyfodol porfa rhos.

Mae'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy dwy flynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn gweithio â thirfeddianwyr lleol i adnabod ardaloedd o gynefin porfa rhos y gellid eu rheoli'n well ar gyfer bywyd gwyllt, pobl ac amaethyddiaeth. Yn ymuno ag aelodau o staff ac Ymddiriedolwyr o Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed oedd cynrychiolwyr o'r gymuned ffermio leol, Rhayader by Nature, CARAD, NFU Cymru, y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt, Cyfoeth Naturiol Cymru, Elan Links, Three Parishes for the Common Good, a chynghorwyr lleol.

Arweiniodd ymweliad â phorfa rhos y Glôb Byw at drafodaeth bwysig am ddyfodol ffermio, rheoli tir er budd y cyhoedd ac er budd bywyd gwyllt. Bydd y prosiect yn cynnal nifer o astudiaethau dichonoldeb i ddeall yn well y ffyrdd posibl y gellir rheoli porfa rhos yn gynaliadwy. Gobeithir y bydd yr astudiaethau hyn ynghyd â data arolwg o dechnegau rheoli a monitro ecolegol yn helpu i lywio polisi ffermio a systemau cymorth yn y dyfodol, gan alluogi'r cynefin hwn i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Law yn llaw â'r elfen rheoli tir o'r prosiect, mae ffocws cryf ar gelfyddydau a threftadaeth gymunedol hefyd. Arweiniodd artist lleol, Jane Titley, weithgaredd gwneud printiau yn ystod y digwyddiad, gan ddefnyddio ystod o liwiau wedi'u canfod yng nghynefin porfa rhos fel ysbrydoliaeth.

Dywedodd Lucy Morton, Rheolwr Prosiect Adfer Porfa Rhos "Roedd yn wych dod â ffermwyr a thirfeddiannwyr sydd wedi bod yn rheoli rhos ers blynyddoedd ynghyd a dysgu o'u profiad. Trafodwyd dyfodol y cynefin ymylol amaethyddol ond pwysig iawn hwn, a'r buddion y gall eu cyflwyno i'r gymuned leol."

Welsh Government Funding Logo

Cynllun Rheoli Cynaliadwy dwy flynedd rhwng mis Mawrth 2021-Mawrth 2023. Ariennir drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.