Ein cenhadaeth

Y weledigaeth gyffredinol

Rydyn ni’n gofalu am fywyd gwyllt.  Rydyn ni’n gweithio i adfer natur.  Rydyn ni’n dod â phobl yn nes at natur.

Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed

ydy ailadeiladu bioamrywiaeth a chael pobl i ymgysylltu â’u hamgylchedd.

Mae bywyd gwyllt dan fygythiad

Mae’r ffordd rydyn ni wedi bod yn byw am y 50 mlynedd diwethaf wedi achosi dirywiad enfawr mewn bywyd gwyllt ar y tir ac yn y môr.

Mae 1 o bob 10 o’n planhigion gwyllt mewn risg o ddiflannu a’r dyddiau yma dim ond hanner y draenogod a oedd i’w gweld yng nghefn gwlad yn 2000 a welwch chi nawr. Mae llawer gennyn ni i’w ddysgu am fywyd gwyllt moroedd Prydain ond yr hyn rydyn ni yn ei wybod ydy bod planhigion ac anifeiliaid y môr yn dioddef dirywiad enfawr, felly mae’n rhaid i ni weithredu’n gyflym ac yn bendant i warchod yr hyn sydd ar ôl.

Adroddiad 2017 Bywyd Gwyllt yn Sir Faesyfed

Crynodeb Cymru o Gyflwr Byd Natur 2019

Adroddiad Llawn 2019 y DU ar Gyflwr Byd Natur

Cymdeithas lle mae natur o bwys

Rydyn ni’n ysbrydoli ac yn grymuso pobl i gymryd camau yn ystod eu bywyd i helpu bywyd gwyllt. Rydyn ni o’r farn bod pawb yn haeddu byw mewn byd iach, naturiol â chyfoeth o fywyd gwyllt, ac y dylai pawb gael y cyfle i brofi hyfrydwch bywyd gwyllt yn eu bywydau bob dydd. Rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud y farn hon yn realiti.