Gwyn bach

Small White butterfly

©Les Binns

Gwyn bach

Enw gwyddonol: Pieris rapae
Mae'r gwyn bach yn ymwelydd gardd cyffredin. Mae'n llai na'r gwyn mawr tebyg, ac mae ganddo lai o ddu ar flaen ei adenydd.

Species information

Ystadegau

Lled yr adenydd: 3.8-5.7cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

April to October

Ynghylch

Fel mae ei enw'n awgrymu, glöyn byw gwyn, gweddol fychan yw’r gwyn bach ac mae ar yr adain rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Mae'n löyn byw cyffredin, sydd i’w ganfod mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys gwrychoedd, tir fferm, gerddi a pharciau. Fel y gwyn mawr, mae planhigion bwyd lindys y gwyn bach yn aelodau o deulu’r bresych, gan gynnwys garlleg y berth a bresych gardd, er ei fod yn dibynnu llai ar fathau wedi'u trin, gan fagu ar amrywiaeth o blanhigion bwyd gwyllt. Mae mudwyr o dir mawr Ewrop yn ymuno â’r glöynnod sy’n byw yn y wlad yma yn yr haf.

Sut i'w hadnabod

Yn fersiwn lai o'r gwyn mawr, mae gan y gwyn bach lai o ddu ar flaen yr adenydd blaen. Mae ochr isaf yr adenydd yn felyn hufennog. Mae gan y fenyw un neu ddau o smotiau du ar bob adain flaen. Mae posib dweud y gwahaniaeth rhyngddo a’r gwyn gwythïen werdd oddi wrth y lliw melynaidd plaen ar ochr isaf ei adenydd ôl.

Dosbarthiad

I’w ganfod ledled y DU, er ei fod yn brinnach yng ngogledd yr Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Fel rheol ceir dwy genhedlaeth o’r gwyn bach mewn blwyddyn, ond os yw'r tywydd yn gynnes, mae posib cael hyd at dair nythaid dros y gwanwyn a'r haf. Mae oedolion y nythaid gyntaf yn tueddu i fod â marciau ysgafnach na rhai nythaid yr haf.

Os ydych chi eisiau cadw lindys y gwyn bach draw, ceisiwch roi cnu garddwriaethol dros eich llysiau i atal y glöyn byw rhag dodwy ei wyau arnynt.