Yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, rydyn ni eisiau sefyll o blaid natur. P’un ai ydych chi’n cefnogi ymgyrch, yn gwirfoddoli dros natur neu’n gwneud rhodd i apêl – rydyn ni o’r farn y gallwn ni, gyda’n gilydd, wneud gwahaniaeth.
Mae’r prosiect hwn, sy’n para am flwyddyn, yn ein gwarchodfa natur Cefn Cenarth a’i nod ydy creu ac annog datblygiad cynefin coedwigol â mwy o fioamrywiaeth sy’n fwy cadarn i allu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Y weledigaeth yw Gororau Gwylltach ffyniannus lle y mae pobl sy’n gyfarwydd â’r tir ac yn ei garu’n gallu gwneud bywoliaeth dda a chynhyrchu bwyd tra’u bod yn chwarae rhan allweddol mewn adfer natur, a lle y mae ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr mewn mynd i’r afael â’r argyfyngau o ran yr hinsawdd ac ecoleg.