Cofnodi Bywyd Gwyllt

Hare in field

Brown hare by Mark Hamblin/2020VISION

Pam cofnodi bywyd gwyllt?

Pam cofnodi bywyd gwyllt?

Mae cofnodion bywyd gwyllt yn cael eu defnyddio’n lleol i ddarparu sail ar gyfer ceisiadau cynllunio ac fe allan nhw chwarae rôl hanfodol bwysig wrth dynnu sylw at hanes biolegol safle.  Pan gynigir safle ar gyfer ei ddatblygu, mae ymgynghoriaethau ecolegol a’r awdurdod cynllunio lleol yn defnyddio cofnodion bywyd gwyllt.

Mae’r data rydych chi’n eu casglu’n gallu ein helpu i ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, addysgu’r gymuned a chynnal ymchwil i rywogaethau a chynefinoedd pwysig.  Trwy gyflwyno’ch cofnodion, fe allwch chithau wneud gwahaniaeth mesuradwy i’n dealltwriaeth o wasgariad rhywogaethau sydd, yn ei dro, yn galluogi cynhyrchu adroddiadau blynyddol ac atlasau bridio neu aeafu.

Os ydych chi eisiau cyfrannu mwy fyth at ein gwaith cofnodi, fe allwch chi fynd i’n tudalen gwirfoddoli i arolygu i ddysgu mwy.

Discovering nature with RWT

Radnorshire Wildlife Trust

Cyflwyno cofnod

Fe allwch chi gyflwyno’ch cofnodion i gymaint o wahanol bobl a grwpiau ag y dymunwch ond dyma ydy’r rhestr gyfredol o holl Gofnodwyr Is-Sir Sir Faesyfed:

Cofnodwyr Sir Faesyfed (Is-Sir 43)

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Gwenyn a Chacwn

Janice Vincett   jayvee156@gmail.com

Adar

Pete Jennings   radnorshirebirds@hotmail.com

Glöynnod Byw

Chris Ledbury   chrisledbury@icloud.com

Gweision y neidr

Bob Dennison   rd19366@googlemail.com

Ffyngau a Chennau

Ray Woods   raygwoods@aol.com

Anifeiliaid di-asgwrn-cefn (heblaw am wenyn, glöynnod byw, gwyfynod a gweision y neidr a chacwn)

Mamaliaid

Gwyfynod

Pete & Ginny Clarke   peteandginnyc@hotmail.co.uk

Planhigion

Liz Dean   erd@btconnect.com

Y Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol

ydy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth yn coladu’r holl gofnodion bywyd gwyllt y mae’r cofnodwyr sirol wedi’u cyflwyno ac yn darparu data ar gyfer ceisiadau cynllunio a gofynion Llywodraeth Cymru. Fe allwch chi gyflwyno’ch cofnodion bywyd gwyllt eich hun yn uniongyrchol i’w cronfa ddata a gweld mapiau o amryfal rywogaethau bywyd gwyllt sydd wedi’u cofnodi ym Mhowys hefyd.

Cyflwyno Cofnod