Coetir Cefn Cenarth er Dyfodol Bioamrywiol

RWT Cefn Cenarth Woodland

Silvia Cojocaru, Radnorshire Wildlife Trust

EIN PROSIECTAU

Coetir Cefn Cenarth er Dyfodol Bioamrywiol

WCVA Logo 2020

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n ariannu'r prosiect hwn, sy’n rhedeg o 1af Medi 2020 hyd at 31ain Awst 2021.

Mae’r prosiect hwn, sy’n para am flwyddyn, yn ein gwarchodfa natur Cefn Cenarth a’i nod ydy creu ac annog datblygiad cynefin coedwigol â mwy o fioamrywiaeth sy’n fwy cadarn i allu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Gair am y prosiect

Mae mwyafrif y coed yng Nghefn Cenarth yn debyg iawn o ran maint ac oedran, sy’n awgrymu bod cwympo coed mewn rhannau helaeth wedi digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail a’u bod wedi adfywio’n naturiol wedi hynny. Un o nodau’r prosiect ydy parhau i adfer y coetir trwy greu mwy o amrywiaeth o ran oedran y coed.

Fe fydd y prosiect yn gweithio gyda pherchnogion tir lleol a thrigolion yr ardal i ffurfio grŵp newydd o wirfoddolwyr i helpu i reoli Cefn Cenarth.  Ymhlith y tasgau fydd gwneud arolygon o rywogaethau a chynefinoedd yn ogystal ag ymarferion monitro a gwneud ymchwil hanesyddol i gynhyrchu taflen wybodaeth.

Buddion