Codi arian ar ein rhan

RWT Donation Box

Radnorshire Wildlife Trust

Codi arian ar ein rhan

Diolch ichi am ystyried codi arian ar ein rhan.  Mae pob ceiniog rydych chi’n ei chodi’n helpu i warchod bywyd gwyllt yn Sir Faesyfed i bawb ei fwynhau.

P’un a ydych chi awydd trefnu sêl gacennau, gwneud taith gerdded noddedig neu hyd yn oed herio’ch hun i grwydro mynyddoedd, fe allwch chi helpu i godi arian hanfodol a gwneud gwahaniaeth go iawn er budd bywyd gwyllt.  Beth bynnag fo’ch doniau, fe allwch chi ddefnyddio’ch sgiliau a gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau i helpu i godi arian hanfodol bwysig.

Set up a just giving page!

Simply visit www.justgiving.com and create an account. Click on 'start fundraising' and choose radnorshire wildlife trust as the charity you want to fundraise for. 

Get started!

Cyflwyno’r arian i ni

Unwaith rydych chi wedi codi’ch arian, fe allwch chi naill ai dalu’r arian yn uniongyrchol i mewn i’n cyfrif banc neu ysgrifennu siec a’i hanfon aton ni yn y post.  Sieciau yn daladwy i 'Radnorshire Wildlife Trust' neu 'RWT'.

Mae ein cyfeiriad post, rhif ffôn ac e-bost ni isod.  Cysylltwch â ni os oes angen ein manylion banc arnoch chi i wneud trosglwyddiad banc. Diolch yn fawr.