Lansio Prosiect Adfer Porfa Rhos yn Sir Faesyfed

Lansio Prosiect Adfer Porfa Rhos yn Sir Faesyfed

Prosiect Adfer Porfa Rhos yn Sir Faesyfed yn dechrau
RWT Cow at Gilfach

Cattle grazing rhos pasture

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed gyhoeddi lansiad y prosiect hwn. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae Porfa Rhos yn gynefin o bwys sydd heb ei reoli’n amaethyddol dros y blynyddoedd diweddar.  Mae’r prosiect bywyd gwyllt a threftadaeth hwn yn ceisio dod â phorfa rhos dan reolaeth draddodiadol er budd y ffermwyr a’r tirfeddianwyr, a’r bywyd gwyllt lleol. 

Yn draddodiadol, mae porfeydd rhos wedi bod yn ardaloedd o laswelltir a phorfeydd brwyn cyfoethog eu rhywogaethau.  Glaswelltir corsiog ydyw yn ei hanfod sydd fel rheol yn cael ei reoli trwy roi gwartheg i bori yno ar ddwysedd isel.  Mae ei strwythur amrywiol yn cefnogi bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol.

Mae’r glaswelltau a’r brwyn hir, gwydn yn gallu darparu lloches i’r Gïach Cyffredin a’r Gylfinir.  Mae hefyd yn cefnogi rhywogaethau pwysig a phrin o’r pili-pala, gan gynnwys y Fritheg Berlog a Britheg y Gors.  Credir bod Britheg y Gors wedi darfod amdani yn y sir, ac un o nodau’r prosiect hwn yw adfer y rhywogaeth hon yn Sir Maesyfed.

Cynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect sirol hwn, a fydd yn cynnal astudiaethau i lunio opsiynau arfer gorau ar gyfer rheoli porfa rhos ac a fydd yn astudiaeth beilot i ddarparu sail ar gyfer rheoli porfa rhos ledled Cymru.

Meddai Viv Geen, Rheolwr Prosiect Adfer Porfa Rhos, “Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn yn gyffrous gan ei fod yn asesu ecoleg porfa Rhos a’i fudd amgylcheddol ac, ar yr un pryd, mae’n cynnwys agwedd gelfyddydol a threftadaethol. Bydd hyn yn cynnwys y cymunedau lleol yn Sir Faesyfed, eu hatgofion o borfa rhos a sut y mae’n eu hysbrydoli nhw.”

Bydd Swyddog y Celfyddydau a Threftadaeth Cymunedol yn ymuno â’r prosiect yn fuan a bydd yn cydlynu digwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y sir. Bydd Covid-19 yn effeithio ar y digwyddiadau ymysg y cyhoedd i ddechrau, ond bydd digwyddiadau digidol yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.

Bydd angen gwirfoddolwyr i helpu â’r arolygon ecolegol yn ogystal â’r gweithgareddau yn ymwneud â’r celfyddydau a threftadaeth.  Os byddech chi’n hoffi helpu â’r prosiect diddorol hwn, neu os ydych chi’n berchen ar borfa rhos yn Sir Faesyfed yr hoffech chi ddweud wrthyn ni amdani, cysylltwch â Viv Geen yn viv@rwtwales.org

Am mwy wybodaeth am y Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), cliciwch yma.