Ymddiriedolaethau Natur yn lansio Cysylltiadau Gwyrdd Powys

Ymddiriedolaethau Natur yn lansio Cysylltiadau Gwyrdd Powys

Cyfarfu staff Ymddiriedolaethau Natur ac aelodau o’r gymuned ar feysydd chwarae Brenin Siôr V, Talgarth i lansio prosiect bywyd gwyllt newydd o’r enw Cysylltiadau Gwyrdd Powys.

Daeth nifer dda o bobl i’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys arddangosfeydd, gweithgareddau a thaith gerdded dywysedig, gan gynnwys cynghorwyr, grwpiau cymunedol a thirfeddianwyr sydd eisiau annog mwy o fywyd gwyllt i mewn i fannau gwyrdd.

Cyfarfu staff Ymddiriedolaethau Natur ac aelodau o’r gymuned ar feysydd chwarae Brenin Siôr V, Talgarth i lansio prosiect bywyd gwyllt newydd o’r enw Cysylltiadau Gwyrdd Powys. Daeth nifer dda o bobl i’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys arddangosfeydd, gweithgareddau a thaith gerdded dywysedig, gan gynnwys cynghorwyr, grwpiau cymunedol a thirfeddianwyr sydd eisiau annog mwy o fywyd gwyllt i mewn i fannau gwyrdd.

Prosiect Ymddiriedolaethau Natur ar y cyd ledled Powys ydy Cysylltiadau Gwyrdd Powys, sy’n helpu grwpiau cymunedol, busnesau bach, tirfeddianwyr a chynghorau i gymryd camau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac â cholli bioamrywiaeth ac i greu rhwydwaith adfer natur ledled y sir. Mae’r prosiect wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014- 2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bu Phil Ward, sy’n arbenigo mewn pryfed, yn tywys pobl ar daith gerdded o amgylch safleoedd y mae Ar yr Ymyl Talgarth yn eu rheoli, gyda chymorth aelod o’r grŵp cymunedol. Darparodd staff o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru arddangosiad poblogaidd o bladuro i dorri dôl blodau gwyll. Gwnaethon nhw hefyd esbonio sut i ddefnyddio gwair gwyrdd a hadau a gesglir o ddolydd blodau gwyllt cyfrannol i wasgaru hadau i mewn i ardaloedd glaswelltog newydd. Bu staff Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn difyrru’r plant trwy wneud disgiau bwydo adar.

Meddai Darylle Hardy, rheolwr prosiect yn Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed, “Roedd hi’n ysbrydoledig gweld a clywed sut y mae’r gymuned leol wedi bod yn creu dolydd bach ar ymylon ffyrdd ac yn rheoli mannau gwyrdd o amgylch Talgarth i helpu bywyd gwyllt. Dros y flwyddyn nesaf, bydd staff wrth law ledled Powys i gynnig cyngor a chefnogaeth i dirfeddianwyr neu grwpiau cymunedol eraill sydd eisiau helpu i adfer natur. Mae croeso ichi gysylltu â ni.”

Meddai’r Cynghorydd William Powell “Roedd hi’n fraint mawr bod yno i weld lansio ‘Cysylltiadau Gwyrdd Powys’ heddiw, yn enwedig gan iddo gael ei gynnal ar ein meysydd chwarae Brenin Siôr V ein hunain (Talgarth). Mae’n beth hynod bositif gweld y tair Ymddiriedolaeth Natur ym Mhowys yn cydweithio fel hyn, er budd ein hamgylchedd naturiol, yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd sydd ohoni.

“Fel rhywun sydd wedi bod yn cefnogi Ymddiriedolaethau Natur ers cryn amser, roeddwn i hefyd yn falch o weld graddau’r cydweithredu â grwpiau lleol, fel Ar yr Ymyl, Grŵp Coetir Cymunedol Talgarth, Tools for Self-Reliance ac, yn wir, roeddwn i’n falch o Glwb Pêl-droed Tref Talgarth am ddarparu man cyfarfod rhagorol. Roedd yn ddigwyddiad cyfoethog a gwerth chweil iawn – rhywbeth i’r holl staff a gwirfoddolwyr dan sylw ymfalchïo ynddo. ‘’

Welsh Government EAFRD Logo

The project is part of the Welsh Government’s funding scheme ENRaW (Enabling Natural Resources and Wellbeing). The press release has been approved by Rural Network. The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.