Cymunedau difreintiedig ledled y DU wedi’u grymuso i adael i natur ffynnu, diolch i gyllid o £5m o’r Loteri Genedlaethol

Cymunedau difreintiedig ledled y DU wedi’u grymuso i adael i natur ffynnu, diolch i gyllid o £5m o’r Loteri Genedlaethol

Bydd Natur Drws Nesaf – menter etifeddiaeth naturiol newydd i ddathlu Jiwbilî y Frenhines – yn helpu natur i ffynnu yn Sir Faesyfed.

Cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol heddiw fuddsoddiad o £5miliwn mewn menter arloesol i greu matrics anferthol o brosiectau dad-ddofi tir dan arweiniad cymunedau – gan wella bywydau pobl o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled y DU a gadael etifeddiaeth naturiol barhaol i anrhydeddu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Mae’r cyllid yn rhan o fuddsoddiad £22miliwn y Loteri Genedlaethol i ddathlu’r Jiwbilî a bydd hyn o fudd i Sir Faesyfed gan fod iddi ei phrosiect ei hun.

Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed fydd yn cyflenwi Natur Drws Nesaf, a fydd yn rhoi’r sgiliau, yr offerynnau a’r cyfle i bobl weithredu dros natur. Gallai hyn gynnwys sefydlu cynefinoedd gwyllt a choridorau gwyrdd mewn ardaloedd o amddifadedd o ran yr economi a natur, dad-ddofi tiroedd ysgolion neu naturioli ardaloedd hynod drefol neu ddiddefnydd. Mae’r pandemig wedi dangos yn union pa mor bwysig ydy cael amgylchedd naturiol ag ôl gofal da arno o fewn cyrraedd i gymunedau ledled y DU.

Mae enghreifftiau o gymunedau y bydd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn cynnwys:

  • Pobl sy’n byw yn ardaloedd amddifadedd economaidd Llandrindod, Trefyclo a Llanandras
  • Pobl ifanc
  • Oedolion ag anableddau

Mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf yn y byd ac mae ymchwil yn dangos bod 85% o bobl mewn ardaloedd ag amddifadedd natur yn dweud y byddai mwy o fannau naturiol yn gwella ansawdd eu bywyd. Mae’r mwyafrif hefyd yn dweud bod cael mannau naturiol lleol o fewn cyrraedd yn bwysicach fyth ar ôl y pandemig. Bydd Natur Drws Nesaf yn galluogi pobl i wneud i hyn ddigwydd a, thrwy wneud hynny, cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng o ran natur a’r hinsawdd tra’u bod hefyd yn diwallu anghenion iechyd a llesiant pwysig.

Meddai Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Fel rhan o fuddsoddiad £22m teulu’r Loteri Genedlaethol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, mae’n bleser gennym ni lansio Natur Drws Nesaf, sef menter drawsffurfiol a fydd yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol o fewn cyrraedd i filoedd o bobl sydd, o bosibl, heb ei fwynhau neu ei werthfawrogi o’r blaen. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o bobl, am y tro cyntaf, yn dod yn gyfarwydd â natur, gan greu cenhedlaeth newydd o hyrwyddwyr ar gyfer ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr.”

Meddai Liz Bonnin, Llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Rydyn ni, y bobl, yn allweddol i ddatrys argyfwng yr hinsawdd ac adfer ein treftadaeth naturiol. Mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, ond mae Natur Drws Nesaf yn gweithio i gywiro hynny, gan roi cymunedau lleol wrth galon helpu ein mannau gwyllt i adfer, a gwneud yn siŵr y gallwn ni fod yn rhan o’r ymdrech hanfodol hon, lle bynnag rydyn ni’n byw.

“Mae gwreiddiau’r Ymddiriedolaethau Natur yn gadarn yn ein cymunedau ac maen nhw’n gallu cefnogi a chynghori’r rheini sy’n fodlon bod wrth y llyw i ddod â bywyd gwyllt yn ôl i gartrefi a gweithleoedd a fydd, yn ei dro, yn ysbrydoli’r rheini o’u hamgylch i wneud yr un fath. Gallwn ni gyflawni pethau anhygoel pan rydyn ni’n cydweithio!”

Meddai Jenny Mottershead, Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed:

 “Rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau gwneud rhywbeth i wella’u cymdogaethau ond mae’n aml yn anodd gwybod lle i ddechrau. Bydd Natur Drws Nesaf yn gadael i gymunedau osod eu hagenda eu hunain ynglŷn â’r materion amgylcheddol y maen nhw eisiau mynd i’r afael â nhw a byddwn ni’n edrych ar ffyrdd gwahanol o ddod â phobl at ei gilydd a rhoi’r gefnogaeth, y sgiliau a’r hyder iddyn nhw gymryd y cam nesaf.”

Diolch i’r cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth, bydd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn cefnogi grwpiau yn Llandrindod, Trefyclo a Llanandras dros y ddwy flynedd nesaf sydd o’r farn bod eu hardal leol ar hyn o bryd wedi’i hamddifadu o leoedd naturiol i’w mwynhau. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl wedi dod yn fwyfwy digyswllt â natur, gyda chanlyniadau dwfn i iechyd ac mae hefyd yn golygu eu bod yn llai tebygol o warchod eu treftadaeth naturiol.

Yng ngeiriau Syr David Attenborough, Llywydd Emeritws yr Ymddiriedolaethau Natur, “Bydd neb yn gwarchod pethau sydd ganddyn nhw ddim ots amdanyn nhw; a bydd gan neb ots am y pethau dydyn nhw erioed wedi cael profiad ohonyn nhw.”

Mae Natur Drws Nesaf yn adeiladu ar waith presennol Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn ein cymunedau lleol:

  • Mae Cysylltiadau Gwyrdd yn gweithio ledled Powys gyda grwpiau cymunedol, busnesau bach, tirfeddianwyr a chynghorau lleol i gymryd camau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac â cholli bioamrywiaeth ac i greu rhwydwaith adfer natur ledled y sir.
  • Mae Prosiect Adfer Porfa Rhos yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i adfer porfa rhos, ac yn cysylltu cymunedau lleol â’r cynefin trwy’r celfyddydau a threftadaeth.
  • Mae Sefyll Dros Natur Cymru’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r hinsawdd, gyda help pobl ifanc Cymru.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy gofrestru yma i dderbyn gwybodaeth: wildlifetrusts.org/nextdoor-nature

National Lottery Heritage Fund, The Queen's Platinum Jubilee and The Wildlife Trusts logos sit side by side