Gwneud rhodd

Dipper by Andy Rouse

Bronwen y dŵr gan/ Dipper by Andy Rouse/2020VISION

Gwnewch rodd i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed

Helpwch i warchod bywyd gwyllt Sir Faesyfed ar gyfer y dyfodol
£

Gwnewch wahaniaeth dros fywyd gwyllt heddiw

Y DU ydy un o’r lleoedd lle mae natur wedi dirywio fwyaf ar y blaned ac mae ein byd naturiol mewn perygl. Mae’n rhaid gwneud rhywbeth nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen.  Fel elusen, mae angen eich cefnogaeth arnon ni i warchod bywyd gwyllt Sir Faesyfed.

Trwy wneud rhodd, rydych chi’n ein helpu ni i greu dyfodol gwell. Gyda’n gilydd, fe allwn ni sicrhau bod bywyd gwyllt Sir Faesyfed yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.

Hare in field of ox-eye daisies

David Tipling/2020VISION

Helpwch Fywyd Gwyllt Sir Faesyfed

 

Mae pobl yn rhan o natur;

mae’r byd naturiol yn werthfawr yn ei rinwedd ei hun;

rydyn ni’n dibynnu arno ac mae yntau’n dibynnu arnon ni.

Ffyrdd i gyfrannu

Mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi ein gwaith. Mae ein haelodau’n gwneud cyfraniad enfawr ond, o bryd i’w gilydd, mae angen i ni ofyn am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer prosiectau hanfodol.

Boed yn un taliad unwaith ac am byth neu’n rhodd mewn Ewyllys, rydyn ni’n gwerthfawrogi pob rhodd.

Gwneud rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed

Rydyn ni’n ddiolchgar am bob rhodd, mawr neu fach. Diolch yn fawr.
£

Yn well gennych chi roi rhodd â siec?

Trwy’r post – anfonwch siec yn daladwy i 'Radnorshire Wildlife Trust' neu 'RWT' i Radnorshire Wildlife Trust, Warwick House, High Street, Llandrindod Wells, Powys. LD1 6AG

Lawrlwythwch y ffurflen Rhodd Cymorth isod hefyd os y gallwch chi.  Dydy hyn ddim yn costio’n fwy ond mae’n caniatáu i ni hawlio 25% ar eich rhodd.

Close up of heather

Peter Cairns/2020VISION

Diolch yn fawr

Ffurflen Rhodd Cymorth